Salmau 77
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.
77 A’m llef y gwaeddais ar Dduw, â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd. 2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu. 3 Cofiais Dduw, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela. 4 Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru. 5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd. 6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal. 7 Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy? 8 A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd? 9 A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela. 10 A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf. 11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt. 12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf. 13 Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n Duw ni? 14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd. 15 Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela. 16 Y dyfroedd a’th welsant, O Dduw, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd. 17 Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant. 18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear. 19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl. 20 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.