Salmau 139
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. 2 Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. 3 Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. 4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. 5 Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. 6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi. 7 I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd? 8 Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno. 9 Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr: 10 Yno hefyd y’m tywysai dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw. 11 Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch. 12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti. 13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad. 19 Yn ddiau, O Dduw, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf: 20 Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer. 21 Onid cas gennyf, O Arglwydd, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i’th erbyn? 22 A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion. 23 Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau; 24 A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.